Pysgotwr cysegredig
Gwedd
Pysgotwr cysegredig | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Coraciiformes |
Teulu: | Alcedinidae |
Genws: | Todiramphus |
Rhywogaeth: | T.sanctus |
Enw deuenwol | |
Todiramphus sanctus (Vigors a Horsfield, 1827) |
Gwelir Pysgotwr Cysegredig ar brif ynysoedd Seland Newydd, Ynysoedd Kermadec[1] a hefyd yn ardaloedd arfordirol Awstralia ac yn Indonesia[2].
Maent yn byw yn ymyl afonydd, aberoedd, ar arfordiroedd creigiog ac ar ymylon fforestydd, lle bynnag mae'n bosibl clwydo uwchben y dŵr. Maent yn cymharu yn gynnar ym mis Medi, ac yn nythu yng nghoed, clogwyni a glannau afonnydd ym mis Hydref. Maent yn mudo'n uchderol, yn symud i'r arfordir yn y gaeaf. Maen nhw'n bwyta crancod bach, cimychiaid, pysgod bach, sicadâu, chwilod, pryfed cop a llygod.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
